Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 1:52, 15 Tachwedd 2017

Rydw i yn meddwl bod yna lot fawr allwn ni ei wneud i wella'r ffordd rydym ni'n dysgu Cymraeg fel ail iaith i blant yng Nghymru. Beth y buaswn i'n awyddus i'w wneud nawr yw cymryd ychydig o amser i edrych ar y dystiolaeth o beth sy'n gweithio. Rwy'n Weinidog newydd ac mae hawl gen i i edrych ar sut mae'r strategaeth newydd yn mynd i edrych. Nid wyf yn mynd i ymrwymo i rywbeth sy'n mynd i'm cadw i at gynllun sydd yn mynd tuag at 2021 tan fy mod i wedi edrych arno. Nid yw hynny'n golygu nad ydym ni'n mynd i wneud hynny cyn bo hir, ond nid wyf yn mynd i'w wneud yr wythnos yma, fel oedd yn y cynllun gwreiddiol.