1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cau ysgolion gwledig? OAQ51262
Diolch yn fawr, Mark. Daeth ymgynghoriad 14 wythnos ar gynigion i gryfhau’r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig i ben ar 30 Medi. Rydym yn y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad ar hyn o bryd. Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion cyn diwedd y flwyddyn hon.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae pryderon yn cael eu lleisio'n rheolaidd fod meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn llywio penderfyniadau'r cyngor ynglŷn â pha ysgolion i'w cau. Pan fynychais y sesiwn alw i mewn ar gau ysgolion gwledig yn Sir y Fflint y llynedd, gwnaed cyflwyniadau ar sail tystiolaeth yn unol â chod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth y Cynulliad. Er hynny, cafodd yr ysgolion eu cau ar ôl araith gwbl wleidyddol, a oedd yn anwybyddu'r cod yn llwyr, gan arweinydd y cyngor. Yn ddiweddar, ysgrifennais atoch ynglŷn â chynigion gan Gyngor Ynys Môn i gau Ysgol y Talwrn o dan eu harolwg o ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni. Roeddech yn cloi'r llythyr hwnnw drwy esbonio y bydd y broses o gryfhau, fel y dywedoch, y cod trefniadaeth ysgolion statudol wedi'r ymgynghoriad, yn dilyn, ond na fuasai unrhyw newidiadau i fersiwn gyfredol y cod yn ôl-weithredol. Pa gamau y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd os a phan fydd gan gymunedau dystiolaeth i'w dangos ei bod yn ymddangos bod y cod trefniadaeth ysgolion a'r data sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyngor yn mynd yn groes i ofynion Llywodraeth Cymru?
Diolch, Mark. Rwy'n glir iawn o'r farn y gallai darparu addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion bach a gwledig arwain at fanteision gwirioneddol—yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol—i ddisgyblion yn y cymunedau hynny. Gwn, a gŵyr rhieni ledled y Gymru wledig, y gall ysgolion bach, gwledig chwarae rhan bwysig wrth godi safonau a darparu cyfleoedd i bawb.
Rwy'n argyhoeddedig fod cyfle i'w gael i gryfhau'r cod. Mae'n addewid a wneuthum fel rhan o'r wrthblaid ac mae'n addewid rwy'n ei gyflawni ac yn ei ddilyn gyda'r ymgynghoriad, ond mae'n gywir dweud na fydd yn ôl-weithredol. Os oes gan yr Aelod bryderon ynglŷn â'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu polisi trefniadaeth ysgolion a'u polisi lleoedd ysgolion, buaswn yn fwy na pharod i edrych ar hynny. Mae'r prosesau hyn yn gymhleth a gallant gymryd llawer o amser, ac weithiau maent yn cymryd llawer o amser am fod swyddogion yn treulio llawer o amser yn sicrhau bod awdurdodau lleol wedi cydymffurfio â'r cod sy'n bodoli ac y byddant, gobeithio, yn cydymffurfio â chod cryfach yn dilyn yr ymgynghoriad.