Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'i gweinyddiaethau blaenorol, hanes o danariannu ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gwahaniaethau enfawr rhwng cyllidebau ysgolion y wlad hon a Lloegr, ac mae hynny'n creu anfantais ddifrifol i ddisgyblion yma yng Nghymru. Yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau Cymru, mae'r bwlch ariannu fesul disgybl, o gymharu ag ysgolion yn Lloegr, bellach yn £678 y disgybl. Dyna £678 yn llai i ddisgyblion Cymru nag i ddysgwyr yn Lloegr. Rydym yn hanner gwaelod y tablau cynghrair rhyngwladol. Mae Cymru ar waelod tablau cynghrair y DU o ran ei system addysg, a phan oeddech yn rhan o'r wrthblaid, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ymrwymoch chi i gau'r bwlch hwn. A chithau bellach yn y Llywodraeth, beth a wnewch i ddatrys y broblem hon?