Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Darren. Yr hyn rwy'n ei wneud yn y Llywodraeth yw ymdopi â'r cyfyngiadau ariannol hynod o anodd rydym yn eu hwynebu, yn anad dim, o ganlyniad i agenda cyni eich cydweithwyr yn Llundain. Os ydym yn awyddus i wneud rhywbeth ynglŷn â chyllido addysg yn gyffredinol, buaswn yn annog y Canghellor, yn ei gyllideb yr wythnos nesaf, i ddilyn cyngor undeb Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a darparu adnoddau ychwanegol newydd i'r gyllideb addysg, a fuasai'n rhoi cyfle i ni wedyn, drwy gyllid canlyniadol Barnett, i adolygu ein cyllid addysg.