Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:58, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, a wnewch chi ymgymryd â'r gwaith o archwilio pa mor gyffredin yw bwlio ymhlith staff ysgolion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn barthau di-fwlio nid yn unig o ran y plant, ond o ran pob math o staff sy'n ymwneud â gwaith yr ysgol, ac ystyried llwybr disgyblu penodol ar gyfer ymchwilio i honiadau o fwlio, gan roi'r statws arbennig a roddwyd i hynny, yn hollol gywir, pan fo'n digwydd rhwng plant ysgol? Ac a wnaiff hi ofyn i ysgolion roi gwybod iddi, er mwyn iddi allu rhoi gwybod inni, ynglŷn ag unrhyw ffigur sy'n ymwneud â honiadau a digwyddiadau o fwlio ymysg pob math o staff yn ein hysgolion? Diolch.