Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Credaf ei bod yn bwysig cofio nad ydym, fel Llywodraeth Cymru, yn cyflogi athrawon yn uniongyrchol; mater i ysgolion a chyrff llywodraethu unigol yw hynny. Buaswn yn disgwyl i unrhyw athro â phryderon ynglŷn â sut y maent yn cael eu trin yn eu gweithle allu dwyn hynny i sylw'r pennaeth, ond os nad yw hynny'n briodol, ei ddwyn i sylw eu corff llywodraethu ac yn eu hundeb, gan fod y rhan fwyaf o'r proffesiwn yn aelodau o'r undeb. Fel y dywedais, rwy'n awyddus i Gymru fod yn lle da i fod yn athro. Mae llesiant athrawon yn bwysig i mi. Dyna pam rydym wedi sefydlu arolwg y gweithlu, fel y gallaf glywed yn uniongyrchol gan athrawon ynglŷn â'r materion sy'n effeithio arnynt. Ond os oes gan yr Aelod dystiolaeth o fwlio mewn ysgolion nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif, buaswn yn gofyn i'r Aelod ysgrifennu ataf a gallaf roi sicrwydd iddi y bydd fy swyddogion yn cyflawni'r ymchwiliadau angenrheidiol.