Gofal Cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:25, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Roeddech yn iawn i godi mater teneurwydd poblogaeth a'r heriau o ddarparu unrhyw wasanaethau cyhoeddus, heb sôn am ofal cymdeithasol i blant a gofal cymdeithasol i oedolion, mewn rhanbarth o'r fath, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleihau'r angen i sicrhau bod pob unigolyn, er gwaethaf natur wledig yr etholaeth honno, yn cael gofal priodol.

Soniais yn fy ateb blaenorol ynglŷn â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu ar gyfer gofal cymdeithasol mewn sawl ffordd wahanol, ac mae hynny'n cynnwys cyfraniadau a wnaed i Bowys hefyd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwybod fy mod, cyn bo hir, yn disgwyl gweld canlyniadau 20 diwrnod cyntaf y gwaith ar y cynllun gwella o fewn y ddarpariaeth ofal ym Mhowys. Rwy'n deall ei fod wedi mynd i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a'u bod yn ei ddadansoddi ac yn ei archwilio ar hyn o bryd i weld a oes digon o gynnydd wedi'i wneud, gan ei bod yn bwysig, wrth symud ymlaen, y gallwn roi'r sicrwydd fod anghenion pawb ym Mhowys sy'n cael gofal cymdeithasol yn cael eu diwallu'n briodol. Rwy'n gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad cyn bo hir, wedi imi weld yr adroddiad gwella hwnnw.