Gofal Cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:24, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys yn dilyn adroddiad damniol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wrth gwrs, ar y ffyrdd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu ym Mhowys. Mae darparu gwasanaethau ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn heriol iawn. A gaf fi ofyn pa ystyriaethau a roddwyd i ddarparu cyllid ychwanegol i'r awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r broses o newid ac ailgynllunio'r gwasanaeth, sy'n angenrheidiol, ac yn wir, wrth gwrs, y costau parhaus sydd ynghlwm wrth weithredu gwasanaeth allweddol, yn enwedig ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn y Gymru wledig?