Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae Neil yn nodi pwynt pwysig yma, ac rydym yn credu'n gryf fod yn rhaid i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw gyngor arall, gynllunio eu darpariaeth ofal yn ddigonol yn seiliedig ar anghenion lleol ac ymdrin â'r materion sydd wedi eu codi. Nawr, rwy'n derbyn, a dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol, fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan hyn, yn enwedig y preswylwyr, a bod yn rhaid i ddiogelwch a lles y preswylwyr fod yn faterion o bwys i bob un ohonom. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, dros yr haf, fel y gŵyr Neil, cynhaliwyd ymgynghoriad gan Gyngor Sir Ceredigion ar gau cartref gofal Bodlondeb, ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 25 Medi. Cyfarfu cabinet y cyngor ar 7 Tachwedd i wneud y penderfyniad hwnnw y cyfeiriodd ato ynglŷn â chau'r cartref, a dywedwyd wrthym fod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud o ganlyniad i ymgynghori helaeth â'r sector a chyda phreswylwyr. Ond rwyf hefyd yn deall bod y cyngor wedi comisiynu eiriolwyr annibynnol ac eiriolwyr galluedd meddyliol annibynnol i sicrhau bod llais a barn y preswylwyr yn cael eu clywed yn ystod y broses. Ond wrth gwrs, rydych yn nodi'r pwynt pwysig ynglŷn â 'Beth nawr?' o ran y gofal parhaus hwnnw a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n briodol. Buasem yn disgwyl i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw awdurdod lleol arall sydd â chyfrifoldeb am hyn, ofalu am yr anghenion hynny yn y dyfodol.