Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £50 miliwn y flwyddyn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau. Mae ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau, hyd at 2018, yn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'n nodi'r camau gweithredu manwl rydym ni a'n partneriaid cyflenwi yn eu cymryd i atal ac ymateb i gamddefnyddio sylweddau ymhlith unigolion ac mewn cymunedau ledled Cymru.