Derbyniadau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:17, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynnydd enfawr wedi bod yn nifer y canabinoidau synthetig, megis Spice, er gwaethaf newid yn y gyfraith. Mae ysbytai ledled Cymru bellach yn trin mwy na thri o bobl y dydd mewn perthynas â'r sylweddau hyn. Mae pobl o dan ddylanwad Spice wedi dod yn olygfa rhy gyffredin o lawer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac mae'r effeithiau wedi arwain at ei enwi'n 'gyffur sombi'. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau yn eich Llywodraeth ac yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty o ganlyniad i gymryd sylweddau o'r fath?