Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Wrth gwrs, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i drawsnewid y modd y darperir gofal cymdeithasol, a sicrhau bod pawb sydd angen gofal yn cael gofal. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid yn unig ein bod yn gweld cleifion yn cael eu hanfon adref heb neb i helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal, ond mae gennym hefyd nifer fawr o gleifion yn yr ysbyty am gyfnodau llawer hwy nag sydd angen iddynt fod, oherwydd nad oes ganddynt becyn gofal parhaus. Mae ystadegau diweddaraf oedi wrth drosglwyddo gofal yn dangos bod 462 o bobl yn yr ysbyty am gyfnodau hwy nag sydd angen iddynt fod. Mae mwyafrif y cleifion hyn yn treulio tua mis yn hwy yn yr ysbyty oherwydd nad oes gofal cymunedol ar gael, neu oherwydd bod diffyg lleoedd mewn cartrefi gofal. Gweinidog, mae'n ffaith hysbys po fwyaf o amser y bydd y cleifion hyn yn ei dreulio yn yr ysbyty, y mwyaf o amser y byddant yn ei gymryd i wella.
Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal?