Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Wel, diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eitemau unigol yr achos hwnnw, os hoffech eu dwyn i fy sylw, naill ai ysgrifennwch ataf, neu os ydych yn awyddus i gyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i'w trafod, a gweld beth y gellir ei wneud yn yr achos unigol hwnnw?
Un o'r ffactorau mwyaf sy'n ein hwynebu yw'r mater o oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs. Nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n ffactor perthnasol yn yr achos penodol hwn, ond yn sicr, rydym yn ymwybodol, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn arbennig, fod y cynnydd sylweddol diweddar wedi deillio o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac rwy'n meddwl tybed a ychwanegodd hynny at yr effeithiau. Ond byddaf yn edrych ar yr achos unigol y cyfeiriwch ato, a chawn weld beth y gellir ei wneud.