Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, pan oeddwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, cysylltodd—dywedodd—etholwr wrthyf fod eu cymydog wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty ychydig ddyddiau'n unig ar ôl cael strôc, ond unwaith eto, nid oedd cynllun gofal ganddynt ar waith. Nid oedd gan yr unigolyn dan sylw unrhyw deulu gerllaw a bu'n rhaid iddynt ofalu am eu hunain. Yn anffodus, nid yw sefyllfa'r etholwr yn unigryw o bell ffordd, oherwydd bum wythnos yn ôl, soniais am rywun a oedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio driphlyg ar ei galon yn yr un sefyllfa ac yntau’n 83 oed. Rwyf wedi clywed am lawer iawn o achosion lle mae cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb gynllun gofal priodol a gofal parhaus ar waith, ac yn gorfod dibynnu ar garedigrwydd eu cymdogion am fod y wladwriaeth wedi gwneud tro gwael â hwy. Gweinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynllun gofal ar waith ar gyfer pob claf agored i niwed sy'n cael ei ryddhau o'r ysbyty?