Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch i chi am y cwestiwn dilynol. Rwy'n cydnabod yr adroddiad a lansiwyd y bore yma a gwn fod cyd-Aelodau ar feinciau cefn Llafur, gan gynnwys Jayne Bryant, Jane Hutt a Mick Antoniw, wedi chwarae rhan yn cyllido'r gwaith ymchwil hwnnw, a oedd yn ddarlun defnyddiol i ni mewn gwirionedd o'r sefyllfa gyfredol yng Nghymru, [Anghlywadwy.] darlun ehangach ledled y DU. I fod yn deg â fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Bontypridd, mae wedi bod â diddordeb yn y maes hwn cyn dod i'r Llywodraeth, yn ystod ei gyfnod yn y Llywodraeth ac yn awr yn ogystal, ac mae yna gydnabyddiaeth fod yna her iechyd cyhoeddus go iawn yma yn ogystal â'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu, ac ni ddylem ddisgwyl i'r diwydiant gamblo—. Ni ddylem ei gadael hi i'r diwydiant gamblo ymddwyn yn gyfrifol, rwy'n credu, oherwydd nid yw pawb yn gwneud hynny. Ceir pryderon nid yn unig ynglŷn â betio ods sefydlog ond hefyd ynglŷn â pha mor hawdd y mae gamblo'n digwydd, gan gynnwys ar-lein, lle y mae'n llawer mwy anodd rheoleiddio ymddygiad.
Ceir her i ni hefyd mewn perthynas â'r rhaniad yn y pwerau rhyngom ni a Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd fwy realistig tuag at y mater hwn, i gydnabod y niwed sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, ac yn benodol, fod y difrod hwnnw i'w deimlo gryfaf yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Felly, byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn yn y Llywodraeth hon, o gofio'r cyfyngiadau ar y pwerau sydd gennym, ond gan gydnabod yr effaith ar iechyd ac effeithiau eraill hefyd. Rwyf wedi dweud wrth eich cyd-Aelod, Jayne Bryant, y buaswn yn hapus i Aelodau'r meinciau cefn a noddodd yr adroddiad hwnnw i gyfarfod â swyddogion polisi perthnasol i ddeall y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud wrth i ni barhau i fynd i'r afael â'r broblem hon na fydd yn diflannu ar frys.