Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwrandewais yn ofalus ar eich ateb i'r prif gwestiwn, ac fe sonioch chi am addysg a phwysigrwydd addysgu pobl ynglŷn â pheryglon cyffuriau, ac yn benodol, ynglŷn â chyfrifoldeb personol. Beth yw eich asesiad o'r cyngor sydd ar gael i helpu pobl ifanc, yn arbennig, drwy'r system addysg, i allu deall y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd cyffuriau anghyfreithlon a'r gefnogaeth a allai fod ar gael iddynt pe baent mewn amgylchedd gwael, i'w helpu gydag unrhyw ddibyniaeth y gallent ei datblygu drwy ddefnyddio'r mathau hyn o gyffuriau?