Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Unwaith eto, rwy'n cydnabod y cwestiwn. Cyfeiriaf at addysg yn yr ystyr ehangaf, gan na chredaf mai problem ar gyfer y system ysgolion yn unig yw hon. Mae'n fater o bartneriaethau rhwng y trydydd sector, rhwng yr heddlu, rhyngom ni a phobl yn y cymunedau hefyd, a sut rydym yn rhoi'r cyngor gorau posibl i bobl ar effaith y gwahanol sylweddau sydd ar gael, ond hefyd sut rydych yn delio gyda heriau fel pwysau gan gyfoedion, sy'n digwydd mewn ystod eang o wahanol amgylchiadau. Gwnaethom ddewis anodd yn y gyllideb mewn perthynas â rhai o'r dewisiadau y bu'n rhaid inni eu gwneud ar faterion cyllidebol, ond rwy'n gwybod pan oeddem yn trafod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ein bod wedi meddwl ynglŷn â sut y gallai'r cwricwlwm newydd helpu i arfogi pobl i wneud dewisiadau gwahanol. Ond nid mater i'r cwricwlwm yn unig yw hwn, na mater sy'n ymwneud ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion; mae'n her gymdeithasol ehangach o lawer. Dyna pam, er enghraifft, ein bod yn ariannu Dan 24/7. Llinell gyngor ddwyieithog 24 awr saith diwrnod yr wythnos yw honno, fel y mae'n dweud, i geisio cael gwared ar rai o'r pethau a allai ddychryn pobl rhag gofyn i bobl mewn awdurdod neu gyfrifoldeb am gymorth neu gyngor. Felly, mae hyn yn rhan o'r her onest y mae pob rhan o'r DU a thu hwnt yn ei hwynebu: ystod ac amrywiaeth yr ymyriadau, y mecanweithiau cymorth sydd gennym, a deall beth sy'n llwyddiannus o ran ein galluogi i fynd i'r afael â'r her rydym yn ei hwynebu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ond fel y dywedais ar y diwedd wrth Caroline Jones, nid yw hyn yn hawdd, ni ddylem esgus ei fod yn hawdd, ond yn bendant, mae yna reswm gwirioneddol bwerus dros fod eisiau ceisio deall beth yw'r ymateb mwyaf effeithiol, ac yna pwyso, mesur, deall a gwerthuso a yw hynny wedi cael yr effaith roeddem am iddo'i chael.