Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch i chi am eich ateb, Gweinidog. Rydym yn ymwybodol iawn fod gofal cymdeithasol yn wynebu galw cynyddol. Yn anffodus, nid ydym yn ateb y galw hwnnw. Amlygir hyn yn glir iawn yn adroddiad diweddar Age Cymru 'Care in Crisis'. Canfu Age Cymru nad oedd pobl hŷn mewn rhai rhannau o Gymru yn cael yr asesiadau gofalwyr angenrheidiol, a bod amrywio enfawr rhwng awdurdodau lleol. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol i fod i roi diwedd ar y loteri cod post mewn perthynas â gofal, ond rydym yn parhau i ganfod bod rhai awdurdodau lleol yn well nag eraill am gyflwyno'r pecyn hwn.
Gweinidog, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, a sicrhau na fydd toriadau yn y gyllideb yn effeithio ar eu gallu i gyflawni'r dyletswyddau hyn? A hoffwn ddweud hefyd, wrth fonitro'r sefyllfa hon ar draws fy rhanbarth, rwyf wedi sylwi bod gofal o safon gwahanol yn cael ei roi i gleifion oedrannus yn y rhanbarth, a hoffwn siarad â chi am hynny rywbryd.
Diolch.