Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:34, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, unwaith eto, am y cwestiwn atodol hwnnw. Ac fel y trafodwyd yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma, mae llawer iawn y gallwn ei wneud o fewn yr adnoddau sy'n bodoli drwy weithredu'n fwy clyfar. Ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o weithio mewn partneriaeth ranbarthol i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd, mae'n cynnwys y defnydd o gyllidebau cyfun, fel y gallwn rannu beth yw'r blaenoriaethau ar draws rhanbarth yn hytrach na cheisio ei wneud ar sail dameidiog, ac mae llawer o bethau eraill, gan gynnwys y gronfa TGCh, y gellir eu defnyddio i wneud y pethau hyn. Ond yn y pen draw—fel roeddwn i yn y pwyllgor y bore yma, ac fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n rhaid i ni fod yn hollol onest yn ogystal: nid oes pot newydd o arian. Rydym yn gweithio o fewn y cyfyngiadau sydd gennym, a gwn y bydd cyllideb adnoddau Cymru 7 y cant yn llai erbyn diwedd 2019-20. Bydd £1 biliwn yn llai nag ydoedd yn 2010, ac wrth gwrs, mae'r gwariant cyfalaf 7 y cant yn llai. Dyna'r realiti y mae'n rhaid i awdurdodau lleol, darparwyr eraill ar lawr gwlad a ni ein hunain weithio ynddo, ond nid yw hynny'n golygu y dylem roi'r gorau i weithio'n fwy clyfar gyda phartneriaethau rhanbarthol, cronfeydd cyfun, er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.