Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:37, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ni chlywais ffigur. Rydym yn eistedd yn weddol agos at ein gilydd; buaswn wedi meddwl y buasech wedi clywed fy mod yn gofyn yn benodol am feddygon, nid gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, yn y cwestiwn penodol hwn. A diolch yn fawr am dynnu sylw at y ffaith bod meddygon yn chwarae rôl bwysig yn y GIG. Os nad ydych yn gwybod faint o feddygon ychwanegol, yn benodol, y byddwn eu hangen, nid yw'n syndod ein bod yn wynebu argyfwng cynllunio gweithlu o'r fath yma yng Nghymru. Roeddwn yn barod i gyfaddef ei bod yn bosibl ein bod wedi ei gael yn anghywir a'n bod angen llawer mwy na 1,000 o feddygon. Rydym angen o leiaf 1,000. Rydym angen o leiaf 5,000 o nyrsys. Mae gennym brinderau, rydych yn hollol gywir, ar draws y gweithlu. Dyna pam rydym angen cynyddu niferoedd myfyrwyr ar draws gweithlu'r GIG, pam rydym angen canolfan newydd ar gyfer hyfforddiant meddygol ym Mangor, pam fod deintyddion a fferyllwyr, gyda llaw, yn gofyn i mi 'A gawn ni ragor o leoedd hyfforddi yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym eu hangen?' Roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan y BBC y mis diwethaf yn dangos ein bod ni, yn y flwyddyn ariannol hon, yn gweld mwy o bobl yn gadael y GIG nag sy'n ymuno, gan ein gadael gydag oddeutu 150—250, esgusodwch fi—yn llai o staff. A wnewch chi gyfaddef ein bod yn symud tuag at yn ôl?