Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae gennym heriau gwirioneddol a sylweddol, ac nid oes diben esgus fel arall. Rwy'n dweud hynny'n rheolaidd, yn y Siambr hon, mewn sgyrsiau preifat gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gydag Aelodau Cynulliad, ac mewn meysydd lle rwy'n gwneud areithiau ac yn ateb cwestiynau. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni fod yn gyson ac yn aeddfed ynglŷn â hyn yn y ffordd rwy'n gwneud fy swydd. Dyna pam nad wyf am gymryd rhan mewn proses artiffisial o chwilio am niferoedd, oherwydd mae'n rhaid i ni ddeall beth y byddwn yn ei ddisgwyl o'n system gofal iechyd a sut rydym yn disgwyl iddi ymddwyn. Bydd yr adolygiad seneddol, er enghraifft, yn ein helpu ac yn gosod heriau i ni mewn perthynas â'r ffordd rydym yn disgwyl i iechyd a gofal gael eu darparu yn y dyfodol. Yn amlwg, felly, bydd y dewisiadau a wnawn yn y Llywodraeth ynglŷn â'r modd y bydd y strategaeth iechyd a gofal yn symud ymlaen yn y dyfodol yn effeithio ar niferoedd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rydym eu hangen. A dyna pam nad wyf eisiau cael fy nghlymu wrth un grŵp unigol o weithwyr proffesiynol yn hytrach na grwpiau eraill. Ac fe atebais eich cwestiwn yn y ffordd honno'n fwriadol. Gallem fynd yn ôl ac ymlaen ac edrych ar y semanteg rhyngom pe baem eisiau. Nid wyf yn credu bod hynny'n arbennig o ddefnyddiol. Mae gennyf lawer mwy o ddiddordeb mewn cael sgwrs briodol, aeddfed ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol, y cydblethiad rhyngddo a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill yn ogystal. Ac mae'n rhaid mai dyna'r ffordd gywir o ymddwyn, nid yn unig yn y Siambr, ond yn y ffordd y byddaf yn gwneud fy ngwaith.
Ac wrth inni feddwl, er enghraifft, am y ffordd rydym yn gwneud cynnydd go iawn gyda'r ystod o heriau recriwtio, rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y broses o recriwtio nyrsys, mae mwy o fydwragedd yn cael eu recriwtio, ac mae gennym gyfradd lenwi o 91 y cant fan lleiaf ymhlith ein meddygon teulu. A nododd y Prif Weinidog ddoe y byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r lle hwn ar y cynnydd parhaus rydym wedi'i wneud yn y maes hwnnw yn y dyddiau nesaf. Felly, mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud, ond mae yna heriau go iawn hefyd. Buasai'n llawer gwell gennyf fod yn onest ynglŷn â hynny yn hytrach na phryfocio yn y Siambr a chwilio am ffigurau nad ydynt o bosibl yn bodoli yn y ffordd gadarn y gallent ac y dylent os ydym o ddifrif ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd.