Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:41, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â Brexit; rydym wedi nodi safbwynt y Llywodraeth hon mewn perthynas â'r awydd i gael sgwrs fwy aeddfed â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am realiti Brexit a'r niwed y gallai ei wneud os ceisir cyflawni hynny yn y modd anniben y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn o bryd. Nid wyf yn ymddiheuro am lynu wrth bolisi'r Llywodraeth hon a thynnu sylw at y pryderon sydd gennym, nid ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol yn unig, ond ynglŷn ag ystod eang o sectorau o fywyd cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi nodi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar y gofrestr o'r Undeb Ewropeaidd yn y gweithlu nyrsio yn ogystal ag ofnau rhesymol am y gweithlu meddygon, am bobl yn mynd ati i ystyried eu dyfodol. Rwy'n benderfynol o wneud yr achos, gyda gweddill y Llywodraeth hon, dros fabwysiadu ymagwedd fwy synhwyrol tuag at Brexit, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ac yn cydnabod realiti o'r diwedd.