Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:40, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, yn gynharach fe herioch chi un o fy nghyd-Aelodau i ddod at y cwestiwn; efallai y gallech herio'r Gweinidog i roi ateb.

Beth am roi cynnig ar un y gallwn gytuno arno o bosibl. Gofid arall mewn perthynas â staffio yw ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Mae arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu bod 45 y cant o feddygon UE sy'n gweithio yn y DU yn ystyried gadael—rheswm arall efallai dros gynyddu ein ffigur o 1,000 o feddygon. Ond gyda'r bygythiad hwn i weithlu'r GIG, buaswn yn tybio y buasech eisiau cymaint o lais ag y bo modd yn nhelerau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn y Senedd neithiwr, methodd pob un ond un o'r Aelodau Seneddol Llafur gefnogi gwelliant gan Blaid Cymru yn galw ar y Cynulliad a Seneddau datganoledig eraill i gael dweud eu dweud ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). A ydych yn rhannu fy siom chwerw ynglŷn â hynny ac a ydych yn rhannu fy ofn nad yw hynny'n argoeli'n dda o ran cael yr hawl, er enghraifft, i gael ein system trwyddedau gwaith y GIG ein hunain yma yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â'n hanghenion gweithlu GIG ein hunain?