Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cyfrifoldebau rydych wedi'u cadw ar ôl yr ad-drefnu'n cynnwys ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er bod gennych Weinidog gofal cymdeithasol sy'n goruchwylio gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru. Wrth asesu blaenoriaethau eich cyllideb, rydych wedi penderfynu torri'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith ymchwil hwnnw. Pa waith ymchwil cyfredol a pha waith ymchwil yn y dyfodol sy'n debygol o gael ei beryglu gan y penderfyniad hwn? A oes yna effaith ar Gofal Cymdeithasol Cymru, a oedd yn awyddus i wneud rhywfaint o ymchwil, ac a fydd unrhyw ran o gyllid eich partneriaid ymchwil cyfredol mewn perygl o ganlyniad i'r gostyngiad yn y cyllid o'r lle hwn?