Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:43, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae dau beth rwyf am eu dweud. Y cyntaf yw ein bod yn credu y gallwn reoli rhywfaint o'r gostyngiad heb effeithio ar weithgarwch ymchwil cyfredol. Bydd yn effeithio ar rai o'n cysylltiadau yn strwythur y Deyrnas Unedig mewn perthynas ag ymchwil iechyd a gofal, ond credwn y gallwn ymdopi. Ond mae'n golygu bod yna bethau na fyddwn efallai'n gallu eu gwneud fel arall. Mae'r her, fodd bynnag, yn dod yn ôl at fy ail bwynt, a wnaed gennym yn y pwyllgor heddiw. Nid oes modd gwneud dewis heb ganlyniadau'n perthyn iddo wrth gyfaddawdu o fewn cyllidebau adrannol ac ar draws adrannau yn ogystal. Mae realiti gostyngiad sylweddol a pharhaus yn y gyllideb termau real sydd ar gael i'r lle hwn yn golygu bod toriadau'n cael eu gwneud yn y gyllideb mewn meysydd y buasai'n well gennym beidio â gwneud toriadau iddynt. Felly, un yn unig o'r meysydd hynny yw hwn. Nid oedd yn ddewis dymunol, nid oedd yn ddewis y cefais fwynhad o'i wneud, ond dyna yw realiti bod yn Weinidog yn y Llywodraeth mewn cyfnod o gyni parhaus. Rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelod yn Rhif 11 Stryd Downing yn gosod trywydd gwahanol ar gyfer gwariant cyhoeddus er lles pob un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond nid wyf yn or-obeithiol y ceir safbwynt gwahanol ar gyfer y dyfodol.