Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gobeithio am ateb ynglŷn â beth yn union rydych yn bwriadu ei dorri o ran ymchwil—nid y swm o reidrwydd, ond pa fathau o ymchwil a fydd ar eu colled yn awr. Beth yn union na fyddwn yn ei weld yn cael ei wneud? Pa bartneriaid fydd, o bosibl, yn colli eu cyllid o ganlyniad i'n penderfyniad? A buasai un enghraifft yn unig wedi bod yn iawn ar gyfer hynny.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at y cynigion i symud gwasanaethau iechyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Buasai hynny yn naturiol yn effeithio ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Mae rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol Bae'r Gorllewin yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, a'r tri awdurdod lleol yn yr un ôl troed.
Mae Cwm Taf eisoes yn darparu rhywfaint o ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond credaf ei bod yn bur annhebygol y bydd Cwm Taf yn ei gyfanrwydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen Bae'r Gorllewin. Felly, pa syniadau cychwynnol a wyntyllwyd ar y berthynas rhwng Cwm Taf a phartneriaeth Bae'r Gorllewin, yn arbennig ar y cwestiwn sydd wrth law ynglŷn â chyllidebau cyfun y bydd yn rhaid penderfynu yn eu cylch erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?