Honiadau o Fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014

5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud? 63

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:10, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion a roddais ddoe, ac rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais bryd hynny.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb a roesoch ddoe, Brif Weinidog, yn cydnabod bod honiadau wedi'u gwneud ac wedi cael sylw, fel y nodwyd gennych yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â'r gydnabyddiaeth honno drwy'r cwestiwn hwn heddiw, a hoffwn wybod pryd y daethoch yn ymwybodol o'r honiadau y mae'r cyn-Weinidog Leighton Andrews a'r uwch gynghorydd arbennig Steve Jones wedi'u nodi—ac wedi'u nodi'n benodol. Hoffwn ddeall pwy a ymchwiliodd i'r honiadau hynny a hefyd pa gasgliadau, ac yn bwysig, pa gamau a gymerwyd gennych chi neu gan rywun a ddirprwywyd gennych i ymdrin ag unrhyw bwyntiau dilynol a oedd yn ofynnol o'r adroddiad a luniwyd ganddynt.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:11, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at yr atebion rwyf eisoes wedi'u rhoi, ond unwaith eto, wrth gwrs, rwy'n ailadrodd y gwahoddiad a roddais ddoe, os oes unrhyw un yn dymuno cyflwyno rhagor o wybodaeth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, a yw'n bosibl cadarnhau faint o bobl sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â bwlio o fewn y Llywodraeth ers i chi ddod i'r swydd yn 2009?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:12, 15 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ni ddeuthum i'r swydd yn 2005, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Fe ddywedoch 2009. Mae'n ddrwg gennyf. O ran yr ateb i'r cwestiwn, bydd llawer o'r rheini'n faterion adnoddau dynol y bydd yr Ysgrifennydd Parhaol mewn sefyllfa well i'w ateb.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf fi nodi pwynt o drefn?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Wel, dywedwch yn gyflym, cyn i mi—

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywydd roi rhyw gyfarwyddyd ynglŷn ag union bwynt gofyn cwestiynau pan nad ydych yn cael ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion penodol sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd ac sy'n faterion o ddiddordeb cyhoeddus yn yr ystyr eu bod wedi eu cofnodi ers peth amser a'u bod yn ymwneud ag achosion penodol sydd dan reolaeth uniongyrchol y Prif Weinidog. Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurder y gallwch ei roi i ni ynglŷn â diben hynny.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nid yw hwnnw'n bwynt o drefn, ac mae'r Prif Weinidog wedi ateb eich cwestiwn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf fi nodi pwynt o drefn, os gwelwch yn dda?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Na. Symudwn ymlaen at y—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghwestiwn yn uniongyrchol—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—[Torri ar draws.] Rwy'n symud ymlaen at y cwestiwn nesaf—Jane Hutt.