5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt? 62
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i ddihangfa'r lyncs a marwolaeth ail lyncs yn gysylltiedig â'r sŵ i weld a yw amodau'r drwydded weithredu wedi cael ei thorri o gwbl. Buasai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar y mater hwn tra bod ymchwiliadau'n mynd rhagddynt.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am geisio ateb y cwestiwn o leiaf, ond wrth gwrs mae'r digwyddiadau hyn wedi creu tipyn o bryder i nifer o bobl yn yr ardal ac, yn ogystal, yn ehangach, i bobl sy'n gofalu am anifeiliaid a'u gofal nhw a'u lles nhw mewn sŵau. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad â'r cyngor sir dros y cyfnod yma? Pa drafodaethau a pha gamau, felly, a oedd yn cael eu cymryd? Er enghraifft, a oedd y Llywodraeth yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan y cyngor sir? Yn ehangach, gyda sefyllfa'r sw, mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le pan fod anifail gwyllt yn gallu dianc a phan mae yna un arall yn marw oherwydd camdrafod. A ydym ni felly mewn sefyllfa i edrych ar y rheoliadau cenedlaethol sydd yn llywodraethu sefydliadau fel hyn i sicrhau bod pobl sydd yn rhedeg sŵ â'r sgiliau priodol, ond hefyd bod yr offer a'r sefyllfa yn briodol ar gyfer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno?
Diolch. Rwyf fi hefyd yn bryderus iawn am y ddau ddigwyddiad. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Sir Ceredigion. Cafodd y penderfyniad i ladd yr anifail ei wneud gan y cyngor sir ynghyd â Heddlu Dyfed-Powys, swyddogion o Lywodraeth Cymru a hefyd y prif swyddog milfeddygol. Rwy'n credu bod yna nifer o faterion y mae angen edrych yn ofalus iawn arnynt mewn perthynas â'r drwydded. Ar hyn o bryd, mae arolygiad milfeddygol arbenigol ar y gweill. Dylai hwnnw ddod i ben heddiw. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i mi cyn gynted ag y byddwn wedi cael y wybodaeth honno. Nid ydym eisiau dyfalu beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar y ffeithiau i gyd yma.
Diolch i chi am bopeth rydych wedi'i ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy arswydo'n fawr gan y digwyddiadau a ddilynodd y dianc. Rwy'n arbennig o bryderus fod y lyncs wedi cael ei ladd pan ellid bod wedi ei ddal yn fy marn i. Edrychais ar y trapiau a ddefnyddiwyd ac mae beirniadaeth ynglŷn â hynny—ynglŷn â'r ffaith nad oeddent yn briodol ac y gallasent fod wedi bod yn well ym mhob ffordd, oherwydd roedd yn rhaid i'r anifail gyrcydu yn hytrach na cherdded i mewn i'r trapiau a osodwyd i'w ddal yn fyw. Rwy'n meddwl tybed a gaiff cwestiynau eu gofyn am y broses honno. Yna, cefais fy arswydo'n llwyr gan y newyddion fod anifail a oedd wedi'i ddal yn gaeth wedi cael ei ladd oherwydd diffyg profiad o drin a symud yr anifeiliaid hynny. Felly, mae hyn i gyd, mae'n debyg, yn arwain at gwestiwn amlwg, sef: pan fo trwyddedau'n cael eu rhoi, a oes ystyriaeth, o leiaf, yn cael ei rhoi i brofiad staff yn ogystal â'r cyfleusterau lle bydd yr anifeiliaid hynny'n cael eu cadw. Hefyd, buaswn yn cefnogi'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â'r angen i ni ystyried adolygu'r system gyfan a'r materion ehangach sy'n ymwneud â hynny, ac a yw trwyddedau'n cael eu rhoi'n rhy hawdd, mewn rhai achosion, yn enw cadwraeth, ac mai'r nod sylfaenol weithiau mewn gwirionedd yw gwneud arian.
Diolch. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, rwy'n rhannu llawer o'ch pryderon chi a'i bryderon ef mewn perthynas â'r digwyddiad—neu'r ddau ddigwyddiad. Os caf ddweud ychydig ynglŷn â sut y caiff trwyddedau eu cyhoeddi. Os oes cais am drwydded, bydd sw yn cael ei harolygu gan dîm. Buasai hynny'n cynnwys o leiaf un neu ddau o arolygwyr sydd ar restr yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae gennym fewnbwn. Yn amlwg, mae trwyddedau wedi'u datganoli i Gymru, ond mae hon yn system a sefydlwyd yn ôl yn y 1970au. Ond mae gennym fewnbwn fel Llywodraeth parthed y rhestr honno drwy'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pan fydd cais am drwydded wedi'i wneud, dyna pwy fyddai'n ei archwilio: o leiaf un arolygydd oddi ar y rhestr honno. Gallent fod yn filfeddygon neu gallent fod yn arolygwyr a enwebwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl cais gan awdurdod lleol. Cynhelir arolygiadau ffurfiol hefyd cyn adnewyddu trwydded neu os oes newid sylweddol i drwydded, ond cytunaf yn llwyr fod angen i ni adolygu'r broses sydd gennym. Roeddwn hefyd eisiau ychwanegu bod penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i awdurdodi difa'r anifail heb boen ar 10 Tachwedd yn un gweithredol, a wnaed ar ôl derbyn cyngor arbenigol yn seiliedig ar y ffaith fod lefel y risg i aelodau o'r cyhoedd wedi cynyddu o gymedrol i ddifrifol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf—Andrew R.T. Davies.