Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, mae diweithdra yn y canolbarth yn isel iawn, ond mae gwerth ychwanegol gros fesul pen ar ei hôl hi o'i gymharu â dinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe, a cheir bwlch sylweddol pan ddaw i gyflogau cyfartalog y rheini yng nghefn gwlad y canolbarth. Nawr, mae cytundeb twf posibl i'r canolbarth yn un o'r ffyrdd o sicrhau ein bod ni'n meithrin y sgiliau a'r hyfforddiant priodol i fusnesau ffynnu. Yn rhan o'r cytundeb twf posibl, a ydych chi'n cytuno â mi y gallai cyfleuster statws prifysgol ym Mhowys roi'r hwb sydd ei angen i sicrhau bod gan y canolbarth y gymysgedd iawn o sgiliau ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau cyflogau uwch a darparu economi fwy ffyniannus yn y canolbarth?