Cyfraddau Diweithdra

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n awgrym diddorol. Ceir prifysgol yn Aberystwyth, wrth gwrs. Nid yw ym Mhowys, rwy'n deall, y bydd llawer ohonom ni'n ei wybod, ond mae'n gwneud y pwynt am Bowys yn benodol. Bydd hwnnw'n fater i'w drafod rhwng, rwy'n amau, Coleg Powys fel y darparwr addysg bellach ac unrhyw brifysgol benodol. Mae'n iawn i ddweud mai'r ffordd i gynyddu Gwerth Ychwanegol Gros yw trwy fuddsoddi mewn sgiliau. Rydym ni'n gwybod bod cynhyrchiant yn broblem yn y DU ac yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod mai po fwyaf o sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf cynhyrchiol y maen nhw'n dod, a'r mwyaf y gallan nhw ei roi yn eu pocedi eu hunain o ran eu hincwm. Felly, pe byddai cynnig o'r fath yn cael ei wneud, byddai'n rhywbeth, rwy'n credu, a fyddai o gymorth i'r economi leol.