Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod hynna'n dwyllresymu pur. Ceir agwedd arall ar hyn hefyd y mae'n werth ei ystyried, oherwydd bydd wedi gweld bod Monsieur Barnier, yn ei ddatganiad diweddaraf ar berthynas fasnachu Prydain gydag Ewrop yn y dyfodol, wedi dweud diwrnod neu ddau yn ôl:

Ni fydd unrhyw bartneriaeth uchelgeisiol heb dir cyffredin o ran cystadleuaeth deg, cymorth gwladwriaethol, dadlwytho treth.

Wel, wrth gwrs, dadlwytho treth yw'r ffordd y mae gwleidyddion Ffrainc yn arbennig yn cyfeirio at gystadleuaeth treth rhwng gwledydd, ac maen nhw'n ei wrthwynebu'n fawr. Tuedd gyfan yr Undeb Ewropeaidd yw cysoni trethi fel nad oes unrhyw bosibilrwydd o wneud yr hyn y mae'r Gwyddelod wedi ei wneud o ran treth gorfforaeth, gan roi mantais sylweddol iddynt, sydd wedi bod o fudd mawr i'w heconomi.

Felly, onid yw'r Prif Weinidog yn gweld bod gadael yr UE yn rhoi'r rhyddid y gallem ni yng Nghymru ei ddefnyddio, pe byddem yn ei ddefnyddio gyda dychymyg, i gynyddu allbwn economi Cymru a'r sail drethi a rhoi mwy o arian i Lywodraeth Cymru felly i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus da eraill yr ydym ni eu heisiau?