Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae honno'n agwedd naïf oherwydd, fel y mae e'n gwybod yn iawn, os ydym ni eisiau allforio i farchnadoedd a bod y marchnadoedd hynny'n teimlo bod gennym ni gystadleuaeth dreth annheg, byddant yn gorfodi tariffau yn ein herbyn. Felly nid yw fel pe byddai gan y DU law rydd yn hyn i gyd. Mae'r DU yn wlad o faint canolig, ac nid yw mewn sefyllfa i fynnu telerau masnach i wledydd eraill.

Fe'i cyfeiriaf at yr hyn a ddywedodd Aston Martin dim ond yr wythnos diwethaf—y byddai Brexit caled yn achosi iddynt roi'r gorau i weithgynhyrchu ceir. Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyma eiriau cwmni a fydd yn gyflogwr sylweddol yng Nghymru yn fuan, ac rwy'n tybio y byddwn ni'n gweld mwy o hynny, a dyna pam mae angen i ni ddarganfod ble mae Llywodraeth y DU yn sefyll, ac mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth y DU ac mae angen i hynny fod yn fuan, oherwydd os nad ydym ni mewn sefyllfa, yn fy marn i, lle gall busnesau weld bod ffordd ymlaen erbyn y flwyddyn newydd, yna byddwn ni'n dechrau gweld, mae arna i ofn, cyhoeddiadau a fydd yn negyddol cyn belled ag y mae economi Prydain yn y cwestiwn.