Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Rwy'n codi i gefnogi holl welliannau'r grŵp yma, nifer ohonyn nhw'n ffurfiol, yn enwedig y gwelliant arweiniol—gwelliant 11. Mae'n rhaid cydnabod bod y Llywodraeth wedi symud ar rôl y tribiwnlys ac wedi cyflwyno nifer o welliannau yng Nghyfnod 2 i geisio ymateb i'r dystiolaeth gref a dderbyniom ni ar yr angen i'r tribiwnlys addysg gael y pŵer i gyfarwyddo cyrff iechyd mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Maen nhw wedi symud yn nes at yr hyn rwyf am ei weld, a beth mae'r mwyafrif llethol o'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor hefyd am ei weld, ond mae'r Llywodraeth yn dal yn fyr o'r nod yn fy marn i.
Mae Gweinidogion wedi ein hatgoffa ni yn gyson mai naratif y Bil yma a'r pecyn ehangach o ddiwygiadau o safbwynt anghenion dysgu ychwanegol yw ei gwneud hi'n haws ac yn fwy syml i blentyn, person ifanc a'u teuluoedd i lywio eu ffordd trwy'r maes anghenion dysgu ychwanegol, bod gwasanaethau wedi'u canoli ar y plentyn, bod y gyfundrefn yn gweithio o gwmpas y plentyn, ac nad yw'r plentyn yn gorfod gweithio ei ffordd o gwmpas cyfundrefn sy'n gymhleth ac yn amlhaenog.
Nawr, mae cadw dwy gyfundrefn ar wahân ar gyfer apêl neu geisio iawn am rywbeth yn tanseilio hynny'n llwyr yn fy marn i. Mi fyddai estyn cyfrifoldeb y tribiwnlys addysg i gynnwys cyrff y gwasanaeth iechyd—dim ond, wrth gwrs, mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol—yn symleiddio pethau yn sylweddol, gan fod pob dim perthnasol, wrth gwrs, wedyn yn dod o dan un tribiwnlys. Mi fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi gwelliant 11 yn benodol.