Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 11 ac fe hoffwn i siarad am welliannau 19 a 20 a 21, a gyflwynwyd yn fy enw i hefyd, ac fe hoffwn i siarad hefyd am welliannau 42 a 46, a gyflwynwyd yn enw Ysgrifennydd y Cabinet.
Fe hoffwn i ddweud ar goedd ar ddechrau'r ddadl hon y byddwn ni'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth a gallu'r tribiwnlys i allu penodi dirprwy gadeirydd. Rwy'n credu bod y ddau welliant yn rhai synhwyrol.