Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch am y datganiad. Nid yw'r newyddion yn dod yn sioc—i rai ohonom ni beth bynnag—achos fe wnaethoch chi sôn am hyn ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf. Mae'n hollbwysig bod ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol yn cael eu hamddiffyn, eu cefnogi a'u datblygu. Mae'r sefydliadau yma yn chwarae rôl bwysig ym mywyd diwylliannol ein cenedl. Mae'r datganiad heddiw yn dweud y bydd Cadw yn parhau yn rhan o'r Llywodraeth ond nid yw'n sôn am weddill ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol. Rydych chi'n eu crybwyll drwy sôn am rôl Cadw yn y bartneriaeth strategol ar gyfer y sector treftadaeth, ond mi fyddai'n ddefnyddiol cael eich cadarnhad chi, neu fel arall, ynglŷn ag unrhyw ad-drefnu neu gyfuno o unrhyw sefydliadau diwylliannol neu gadwraethol. Hynny yw, a fydd Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfeydd cenedlaethol yn parhau yn sefydliadau ar wahân? Hynny ydy, a ydy syniad eich rhagflaenydd chi ar gyfer Cymru Hanesyddol wedi mynd rŵan? Mi oedd hwnnw, wrth gwrs, yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur, ac mae'n wir dweud ei fod o wedi codi nyth cacwn, ond a ydy'r datganiad heddiw yn arwydd o ddechrau'r diwedd ar gyfer y cysyniad o Cymru Hanesyddol?
Yn ogystal â gwarchod ein sefydliadau cadwraethol a diwylliannol yn ariannol, mae o hefyd yn bwysig bod eu hannibyniaeth nhw'n cael ei gwarchod. Rydw i yn sylwi bod llawer o'r pwyslais yn y datganiad ar sut y bydd Cadw'n gweithredu'n ariannol—llawer o bwyslais ar hynny—ac mae hynny i mi'n codi'r cwestiwn ai arian yn unig sydd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru. Mi fyddai'n ddefnyddiol, felly, cael gweld yr achos busnes sydd y tu ôl i'r penderfyniad. A fedrwch chi roi dyddiad i ni ar gyfer pryd y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi ac am gylch gwaith yr adroddiad? Hynny yw, a oes ystyriaeth o sefydliadau cadwraethol a diwylliannol eraill ynddo fo? Ac a oes yna ystyriaeth o faterion gweithredol heblaw sut mae cyrff yn cael eu hariannu?
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod perfformiad masnachol Cadw wedi gwella'n sylweddol a bod ffigurau ymwelwyr yn awgrymu bod Cadw ar y trywydd iawn. Ym mhwyllgor y Gymraeg yr wythnos diwethaf, fe gafwyd cadarnhad y bydd prisiau tocynnau Cadw yn codi, er dim cadarnhad o faint fydd y cynnydd yna. O wneud hynny, onid ydy o'n mynd i danseilio peth o'r gwaith sydd wedi digwydd, ac efallai y byddwn ni'n gweld llai o ymwelwyr, a fydd yn gweithio yn erbyn y cynnydd sydd wedi digwydd? Diolch.