– Senedd Cymru am 4:25 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Mae'r grŵp cyntaf o welliannau'n ymwneud â chyngor a gwybodaeth. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i'n galw ar Darren Millar i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 a byddaf yn ceisio siarad am y gwelliant hwnnw, ynghyd â gwelliannau eraill yn y grŵp hwn a gyflwynwyd yn fy enw i. Ond cyn i mi wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Ysgrifennydd y Cabinet a deilydd blaenorol y portffolio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, am y trafodaethau hynod gadarnhaol a gawsant gyda mi a'm swyddfa wrth i'r ddeddfwriaeth bwysig hon ddirwyn ei ffordd drwy'r Cynulliad hyd yma. Mae hi wedi bod yn braf iawn, mae'n rhaid imi ddweud, gallu trafod mewn modd diffuant a thraws-bleidiol i lunio, diwygio a gwella'r Bil hwn, ac rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y trafodaethau a gefais gyda'r ddau ohonynt yn unigol a chyda'u swyddfeydd a'u swyddogion.
Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd, ar ddechrau'r ddadl hon, i'r clercod, yr ymchwilwyr a'r ymgynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gefnogaeth a gafwyd ganddyn hwythau hefyd i ddrafftio'r gwelliannau a gyflwynais ar gyfer y ddadl heddiw. Mae eu cyngor hwythau hefyd wedi bod yn amhrisiadwy.
Diben gwelliant 1 yw sicrhau bod y cod anghenion dysgu ychwanegol, y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei baratoi er mwyn sicrhau darpariaeth y system anghenion dysgu ychwanegol newydd y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chyflwyno, yn hygyrch i blant a phobl ifanc. Yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, mae Llywodraethau ym mhob rhan o'r DU wedi bod yn euog o gynhyrchu dogfennau sydd yno i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant, ac eto maent mewn diwyg sydd yn amhosib i blant a phobl ifanc eu hunain ei ddeall ac yn aml yn annirnadwy i bawb ond llond llaw o arbenigwyr.
Fel mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi tynnu sylw ato'n gwbl briodol, mae'n amlwg bod drafft presennol y cod ymarfer newydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae'n bwysig bod teuluoedd yn cael gwybod am broses y cynllun datblygu unigol, boed hynny drwy gyfrwng cod hygyrch ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd, neu drwy fersiwn deuluol ar wahân o'r cod ymarfer.
Os caiff ei basio, bydd gwelliant 1 o'm heiddo yn sicrhau y bydd y cod ar gael mewn diwyg y gall plant a phobl ifanc ei ddeall. Bydd yn eu galluogi nhw i ddeall a gwerthfawrogi eu hawliau ac i sicrhau y bydd yr hawliau hynny yn cael eu cyflawni gan y rhai sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.
Mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio diwygio adran 7 y Bil, sy'n ymwneud â chyngor a gwybodaeth. Mae adran 7 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i roi gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, a'r system sydd ar waith i ddarparu ar eu cyfer.
Yng Nghyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn mynegi pryder bod, yn wahanol i'r gofynion ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth a datrys anghydfod, nad oedd gofyniad mewn gwirionedd y dylai cyngor a gwybodaeth gan awdurdodau lleol fod yn annibynnol. Roedd hi'n amlwg o'r ddadl yng Nghyfnod 2 yn y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r farn y dylai'r cyngor hwn fod yn annibynnol, oherwydd, wrth gwrs, yn ystod y ddadl honno, gwnaeth y Gweinidog ar y pryd hi'n glir bod disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ddarparu a dyfynnaf 'gwybodaeth a chyngor gwrthrychol a diduedd'.
Felly, mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio gosod yr union eiriau hynny, a gymerwyd o enau'r Gweinidog ar y pryd, ar wyneb y Bil i'w gwneud yn glir i awdurdodau lleol nad disgwyliad yn unig yw hyn, y mae hefyd yn ddyletswydd. Rwyf yn sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno gwelliant arall, a fydd, i bob pwrpas, yn cael yr un effaith—gwelliant 28—ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud ynghylch hynny.
Gan droi, felly, at welliant 5, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cyflawni argymhellion 29 a 30 adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, a oedd eisiau i wybodaeth a chyngor am y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc fod ar gael ym mhob cyfnod allweddol o'r broses anghenion dysgu ychwanegol, ac ar adegau trosglwyddo allweddol yn eu haddysg, fel symud i ysgol arall. Gan fod gwelliant 5 yn cyflawni'r argymhellion hyn, a gefnogwyd gan y pwyllgor ar sail traws-bleidiol, rwy'n gobeithio'n fawr y cawn nhw eu cefnogi heddiw hefyd.
Yn olaf, o ran gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15, mae'r Bil, fel y mae wedi ei ysgrifennu ar hyn o bryd, yn gofyn i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol wneud asesiad o anghenion dysgu ychwanegol pan ei bod yn ymddangos bod gan berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ac os gwelir bod angen, yna bydd gofyn iddyn nhw hefyd baratoi a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc hwnnw.
Fodd bynnag, ceir disgwyliadau o'r gofynion hyn. Un ohonynt yw na ddylai'r dyletswyddau hyn fod yn berthnasol—. Mae eithriadau, dylwn ddweud, yn hytrach, o'r gofynion hyn, ac un ohonynt yw nad yw'r dyletswyddau yn berthnasol os nad yw'r person ifanc yn cydsynio iddynt gael eu cyflawni. Y broblem gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd yw nad oes unrhyw ofyniad i hysbysu person ifanc mewn gwirionedd am ganlyniadau gwrthod cydsynio. Er na chafodd y mater hwn ei drafod yn fanwl yn ystod Cyfnodau 1 na 2 o'r ddeddfwriaeth, rwyf yn pryderu, oni bai y caiff y Bil ei ddiwygio, y gallai pobl ifanc wrthod rhoi cydsyniad heb lawn sylweddoli effaith posibl penderfyniad o'r fath ar eu cyfleoedd dysgu a'u rhagolygon. Mae hyn yn arbennig o bwysig, rwy'n credu, gan y bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn ddysgwyr agored i niwed, felly mae'n rhaid i'r rheini sy'n gwrthod Cynllun Dysgu Unigol wneud hynny ar sail dewis gwybodus ac nid oherwydd eu bod nhw wedi eu perswadio'n amhriodol i wrthod cydsyniad, sydd, rwy'n ofni, yn bosibilrwydd gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd.
Felly, dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny sy'n weddill, sy'n ceisio amddiffyn pobl ifanc agored i niwed rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio'r eithriadau hyn, drwy sicrhau eu bod yn cael gwybod am arwyddocâd a goblygiadau eu penderfyniad cyn penderfynu pa un ai i wrthod rhoi cydsyniad. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau yn cefnogi'r holl welliannau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
A gaf innau hefyd ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu crybwyll i'r Ysgrifennydd Cabinet ac yn sicr i'r cyn-Weinidog am y modd adeiladol y mae ef a'i swyddogion wedi gweithio gyda nifer ohonom ni ar y Bil yma? A hynny wrth gwrs gyda chefnogaeth swyddogion y pwyllgor ac ystod eang iawn o fudd-ddeiliaid sydd yn sicr wedi dod â llawer o gefnogaeth i ni fel Aelodau, ac wedi cyfoethogi yn sicr y drafodaeth sydd wedi bod o gwmpas y Bil yma wrth iddo fe wneud ei ffordd drwy'r Cynulliad.
Rwy'n hapus i gefnogi'r holl welliannau yn y grŵp yma ac yn cefnogi yn ffurfiol welliannau 1, 4, 5, 7, 8, 9, 14 ac 15 am y rhesymau rydym ni wedi'u clywed eisoes. Mae sicrhau bod y cod yn hygyrch ac yn ddealladwy, a bod unrhyw gyngor a gwybodaeth yn wrthrychol ac yn ddiduedd, ac ar gael gydol gyrfa addysgiadol person ifanc, yn enwedig ar gyfnodau allweddol, yn gwbl greiddiol yn fy marn i i integriti y Bil yma ac i lwyddiant y ddeddfwriaeth, ac, yn wir, y pecyn ehangach o ddiwygiadau. Felly, fe fyddwn i'n annog Aelodau i gefnogi'r holl welliannau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf innau hefyd ddechrau, fel Darren Millar, drwy oedi am ennyd i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â chael y Bil at y pwynt hwn? Yn arbennig, fe hoffwn ddiolch i'r Gweinidog blaenorol. Rwy'n gwybod y bu cyflwyno'r Bil a'r rhaglen weddnewid yn flaenoriaeth iddo. Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r pwyllgor Cynulliad sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil, ac i'r holl bartneriaid a'r rhanddeiliaid sy'n ymwneud â datblygiad y Bil a'r rhaglen weddnewid ehangach. Rydym ni, rwy'n credu, mewn sefyllfa gref ac mewn lle cadarn o ganlyniad i'r cydweithio hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau'r gwaith i ddarparu system well ar gyfer ein dysgwyr mwyaf agored i niwed, fel y cânt eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial. Ac rwy'n credu y bydd consensws hir-ddisgwyliedig yn ffurfio yn y maes hwn.
Gan droi'n ôl at y grŵp o welliannau, nid yw'r Llywodraeth yn cefnogi y rhan fwyaf o'r gwelliannau yn y grŵp. Mae hynny naill ai oherwydd eu bod yn amhriodol neu'n ddiangen oherwydd darpariaethau presennol yn y Bil, neu oherwydd bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant arall yn ymdrin â'r un mater.
Mae amcan gwelliant 28 y Llywodraeth yr un fath â gwelliant 4 Darren Millar o ran ei egwyddor, ond rydym ni wedi mynd ati mewn ffordd wahanol. Mae gwelliant y Llywodraeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol wrth wneud trefniadau ar gyfer cyngor a gwybodaeth i roi sylw dyledus i'r egwyddor bod yn rhaid ei ddarparu mewn modd diduedd. Mae hyn yn golygu y bydd awdurdod lleol yn gorfod ystyried nid yn unig pa wybodaeth a chyngor y mae'n eu darparu, ond sut y mae'n darparu yr wybodaeth a'r cyngor hynny. Er bod amcan gwelliant 4 Darren gwelliant yn debyg, fy marn i yw nad yw'r geiriad yn gweithio'n arbennig o dda mewn cyd-destun deddfwriaethol. Yn gyntaf, mae'r termau 'diduedd' a 'gwrthrychol' yn golygu yr un peth fwy neu lai yn y cyd-destun hwn, felly nid oes dim i'w ennill drwy ddefnyddio'r ddau air. Hefyd, mae defnyddio'r naill derm yng nghyd-destun gwybodaeth yn amhriodol. Dylai gwybodaeth fod yn ddim amgenach na mynegiant o ffaith, ond yr hyn sydd yn hollbwysig yw y caiff gwybodaeth ei dethol a'i chyflwyno mewn modd diduedd, ac mae gwelliant y Llywodraeth yn darparu ar gyfer hyn.
Gan droi at yr elfen o gyngor yn y ddyletswydd, mae'r Bil eisoes yn glir bod yn rhaid iddo fod yn ddiduedd. Mae adran 6, ynghyd ag adran 7, yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol, wrth wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor, i ystyried pwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i blant, rhieni a phobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau. Rwy'n fodlon bod y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â gwelliant 28 yn fwy priodol, ac rwyf yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn yn hytrach na gwelliant 4 yn enw Darren Millar.
Gan droi at welliannau eraill Darren, ni allaf gefnogi gwelliant 1, sy'n cynnig bod yn rhaid i'r cod fod yn hygyrch i blant. Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r cod yn ddogfen gyfreithiol a fwriadwyd ar gyfer ymarferwyr. Nid yw, ac ni ddylai fod, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r Bil yn glir y bydd y cod yn rhoi canllawiau i bobl sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ac yn rhoi gofynion arnynt. Yn ei hanfod, bydd yn ddogfen dechnegol sy'n disgrifio llawer o fanylion y system ADY statudol. Bydd hefyd yn ffurf ar is-ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Cynulliad hwn ei chymeradwyo. Nid yw'n briodol, felly, iddo gael ei ysgrifennu mewn iaith addas i blant fel y mae'n ymddangos bod y gwelliant yn ei awgrymu.
Fodd bynnag, serch hynny, yn rhan o'u dyletswydd i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth am y system ADY y mae'r cod yn ei chwmpasu. Mae'n rhaid darparu'r wybodaeth hon mewn ffyrdd sy'n addas i oed a lefel dealltwriaeth y gynulleidfa honno. Hefyd, yn rhan o'r rhaglen weddnewid, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd gwybodaeth i helpu plant ddeall y system, fel yr amlinellir yn y Cod, yn cael ei hatgynhyrchu mewn ffordd hygyrch ac addas i blant.
Rwy'n ofni hefyd na allaf gefnogi gwelliant 5 Darren. Cytunaf y dylai plant a phobl ifanc gael gwybodaeth a chyngor am wasanaethau eirioli bob tro y bydd angen iddyn nhw o bosib ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Mae adran 7 y Bil eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y system ADY. Yn rhan o hyn, mae'n rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud ei drefniadau yn hysbys ynglŷn ag osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol.
Mae adran 4(5) y Bil yn caniatáu i'r cod gynnwys gofynion gorfodol ar y materion hyn, a defnyddir y cod i nodi'r adegau amrywiol y mae'n rhaid — a dywedaf eto, y mae'n rhaid darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn berthnasol yn enwedig wrth roi gwybod am benderfyniadau. Mae'r cod drafft eisoes yn cynnwys deunydd ynglŷn â hyn, gan gynnwys templed llythyrau hysbysu i'w defnyddio yn dilyn penderfyniadau allweddol. Caiff hyn ei ystyried ymhellach wrth i ni barhau i ddatblygu'r cod—a bydd ymgynghoriad llawn ynghylch hyn yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Felly, mae'r Bil a'r cod eisoes yn ymdrin mewn ffordd gynhwysfawr gyda'r pwynt a gynigir yn y gwelliant. Felly, nid oes angen gwelliant 5, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w wrthod.
Yn olaf, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi a chytuno bod angen inni wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 o eiddo Darren. Mae'r Bil, ynghyd â darpariaethau'r Cod, eisoes yn darparu ar gyfer hyn. Nid yw addysg ôl-16 yn orfodol. Ar ddiwedd addysg orfodol, mae pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu haddysg: lle maen nhw yn astudio, beth maen nhw yn ei astudio a sut y maen nhw yn astudio. Dyna pam mae'r Bil yn galluogi pobl ifanc, pan fo ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny, i benderfynu a ydyn nhw'n fodlon i benderfyniadau gael eu gwneud ynghylch a oes ganddyn nhw ADY ai peidio ac a ddylen nhw gael cynllun CDU ai peidio.
Cytunaf yn llwyr â Darren y dylai pobl ifanc sydd o bosib â'r hawl i gael CDU gael yr holl wybodaeth a chymorth priodol i'w galluogi nhw i lawn ddeall y goblygiadau os byddant yn penderfynu gwrthod cydsyniad yn y broses hon. Mae adran 6 y Bil eisoes yn cynnwys y pwynt hwn. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r bobl hynny sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ystyried pwysigrwydd y cyfle i'r person ifanc gymryd rhan mor llawn â phosib mewn penderfyniadau, a phwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n galluogi'r cod i osod gofynion ynglŷn â threfniadau o'r fath ac ynglŷn â phenderfyniadau ynghylch ADY a pharatoi CDU. Mae'r darpariaethau hyn sy'n bodoli yn gwneud gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 Darren yn ddiangen, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w gwrthwynebu ar y sail honno.
I ymateb i'r ddadl, galwaf ar Darren Millar.
Dyna ddechrau gwych, Llywydd—dyna ddechrau gwych. [Chwerthin.] A gaf i ddiolch i Llyr Huws Gruffydd am gefnogi pob un o'r gwelliannau yr wyf wedi eu cyflwyno yn y grŵp hwn? Ac a gaf i ddechrau ar agwedd y mae cytundeb yn ei gylch, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf? A hynny yw, oherwydd bod gwelliant 28 yn cyflawni union nod polisi gwelliant 4, rwyf yn fwy na pharod i beidio â chynnig fy ngwelliant 4 ac i gefnogi gwelliant 28 yn hytrach. Rydych chi a minnau yn cytuno ar un peth, a hynny yw bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod cyngor annibynnol ar gael ac nad awdurdodau lleol wedi dylanwadu ar hwnnw mewn modd sy'n gwneud anghymwynas â phlant a phobl ifanc yr ydym ni eisiau i'r Bil hwn eu cefnogi a'u helpu. O ran fersiwn hygyrch o'r cod, fe wnaethoch chi egluro'n glir iawn bod y cod ar gyfer gweithwyr proffesiynol, nid ar gyfer plant a phobl ifanc; mae i'w ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol. Ond y gwir amdani yw, os ydym eisiau i bobl wybod beth yw eu hawliau, os ydym eisiau i bobl allu manteisio ar y cymorth y dylai fod ganddyn nhw'r hawl iddo, yna mae'n rhaid i bobl allu deall yr holl system yn ei chyfanrwydd, ac weithiau fe allai hynny olygu yr hoffen nhw weld mwy o fanylion, nid yn unig yr wybodaeth a'r taflenni cyngor, er enghraifft, a allai fod ar gael gan yr awdurdod lleol. Felly, mae arnaf ofn fy mod yn dal i ddymuno cynnig gwelliant 4 a gofyn am bleidlais ar hynny, oherwydd rwy'n credu ei fod yn egwyddor bwysig. Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno y dylai gwybodaeth fod ar gael, ond rwyf yn credu bod cael fersiwn hygyrch o'r cod yn un ffordd o wneud yn siŵr bod yr wybodaeth honno ar gael yn hawdd i blant a phobl ifanc mewn fformat cenedlaethol, sydd ar gael ledled y wlad. Oherwydd gadewch i ni beidio ag anghofio: ar hyn o bryd, fel y mae hi, bydd pob awdurdod addysg lleol unigol yn gallu cynhyrchu fersiynau gwahanol o'r cod—o'r wybodaeth a'r cyngor yr hoffen nhw o bosib eu dosbarthu, yn hytrach—a bydd hynny, rwy'n credu, yn ei gwneud hi'n fwy anodd cael y tir cyffredin a fyddai'n bodoli drwy gael fersiwn hygyrch, cenedlaethol o'r cod ar gyfer plant a phobl ifanc.
Rwyf hefyd braidd yn siomedig eich bod wedi gwrthod argymhelliad 5 ynglŷn ag adegau pontio allweddol, a gwneud yn siŵr y caiff pobl eu hatgoffa o'r ffaith bod system anghenion dysgu ychwanegol ar gael ar yr adegau pontio allweddol hynny, oherwydd, wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, roedd hwn yn argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fe wnaethom ni astudio'r cod yn fanwl, fe glywsom ni dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid, ac roedden nhw'n glir iawn eu bod yn teimlo ei bod hi'n werth atgoffa pobl, ar yr adegau pontio allweddol hynny—ac nid dim ond ar adeg y penderfyniadau allweddol, sef yr ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych chi—bod yna gwasanaethau cymorth ar gael, gwasanaethau eiriolaeth yn arbennig, pe byddai arnyn nhw eu hangen. Nawr, fe allai hynny olygu rhywun yn symud o un ardal i'r llall; gallai olygu rhywun symud i fyny'r ysgol mewn ardal awdurdod lleol; fe allai olygu pobl yn symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd neu o addysg uwchradd ymlaen i sefydliad addysg bellach. Ac rwy'n credu ei bod hi yn bwysig, mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu hatgoffa o'r wybodaeth fydd ar gael ynglŷn â'r system dysgu ychwanegol y bydd gennym ni, gobeithio, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth bwysig hon ar yr adegau pontio allweddol hynny.
Nodaf hefyd y byddwch chi'n annog pobl i wrthod gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15. Rydych chi wedi cytuno'n gwbl briodol â'm hamcan polisi yn y fan yma, a hynny yw bod pobl yn meddu ar yr holl wybodaeth cyn gwneud dewis i naill ai wrthod cydsynio i gael asesiad neu i dderbyn unrhyw gymorth anghenion dysgu ychwanegol. Ond yn anffodus nid yw'r ffordd yr wyf yn darllen adrannau 6 a 7 yn rhoi imi yr un sicrwydd hyderus sydd gennych chi. Mae'n sôn, ydy, am roi gwybodaeth i bobl, ond nid yw o reidrwydd yn dweud unrhyw beth am wybodaeth benodol ar yr adeg mae person ifanc yn dewis peidio â chydsynio. Felly, mae'r Bil, fel y'i hysgrifennwyd ar hyn o bryd, o bosib yn caniatáu camarfer rhai o'r cymalau hynny, a dyna pam yr wyf i wedi ceisio eu gwella drwy fewnosod y geiriau hynny bod yn rhaid i'r person hwnnw
'gael ei hysbysu am arwyddocâd a goblygiadau ei benderfyniad' cyn yr adeg honno o beidio â rhoi eu cydsyniad. Felly, rwyf yn dal i fod eisiau cynnig y rheini hefyd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cytuno â'r dadleuon yr wyf i wedi eu cyflwyno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.