Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid y gwir reswm pam fod Arriva wedi tynnu allan yw bod gormod o ffactorau anhysbys ynghlwm wrth y fasnachfraint hon? Mae'n anodd inni ffurfio barn ynghylch hynny gan fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi rhoi'r gorau i'r arfer safonol o gyhoeddi'r gwahoddiad i dendro, ond gwyddom, wrth gwrs, fod yna ffactorau anhysbys ynglŷn ag union natur datganoli pŵer a chyfrifoldeb, ac ansicrwydd ynghylch trefniadau ariannol y fasnachfraint. Gwyddom hynny am fod Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth wedi anfon llythyr atoch. Nawr, a gawn ni ychydig o eglurder o leiaf ynglŷn â rhai o'r materion hynny a godwyd? A allwch ddweud pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb gweithredwr adran 30 a phan fetha popeth arall? A ydych wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU ar y cyllid masnachfraint o £1 biliwn y gofynasoch amdano, ac y dywedasoch y buasai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer uwchraddio? A oes gennych wybodaeth arolwg manwl gan Network Rail ynglŷn â'r seilwaith rheilffyrdd rydych ar fin cymryd cyfrifoldeb amdano?