Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:44, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, ond mater i Arriva eu hunain yw hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, dadansoddodd Arriva y cydbwysedd risg a budd. Rydym wedi dweud yn glir iawn drwy gydol y broses hon ein bod yn disgwyl i unrhyw elw ychwanegol gael ei ailgyfeirio i'r seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ac nid ydym cilio rhag gwneud hynny. Bellach, mae gennym dri chynigydd o safon fyd-eang a fydd yn cyflwyno eu ceisiadau terfynol erbyn 21 Rhagfyr. Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol ac rwy'n benderfynol o'i chyflawni, ac rwy'n hyderus y bydd y ceisiadau hynny gan y tri chwmni o safon fyd-eang yn hynod o uchelgeisiol hefyd.