Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd o ran bod y darlun yn gymysg mewn perthynas ag ardaloedd menter. Rwy'n cydnabod hefyd ei bod yn bwysig diogelu swyddi, er bod yn rhaid i mi ddweud, mewn dogfen gennych yma, mae'n dweud,
'Nod yr Ardaloedd Menter yw: meithrin twf yn yr economi leol a darparu swyddi newydd'.
Felly, dengys y data fod llai na thraean o'r swyddi a gefnogwyd gan ardaloedd menter yn swyddi newydd. A yw'n wir fod uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter wedi lleihau dros amser, i gyd-fynd â'r methiant i greu cyflogaeth newydd, ac nad yw'r ardaloedd newydd bellach yn ddim mwy na chasgliad o ffermydd cymhorthdal sy'n methu creu cyfleoedd cyflogaeth yn y cymunedau lle maent i fod wedi'u lleoli?