Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:50, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn cyfrifo ar sail cynnal swyddi hefyd, a diogelu swyddi. Er enghraifft, ym Mhort Talbot, un o lwyddiannau pwysicaf y Llywodraeth hon dros y blynyddoedd diwethaf fu sicrhau dyfodol eu gwaith dur yn yr ardal fenter. Gall sicrhau ein bod yn diogelu swyddi fod cyn bwysiced â chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd. Yr hyn a wnaethom gydag ardaloedd menter—a graddau amrywiol o lwyddiant a gafwyd; buaswn yn cyfaddef hynny—ond yr hyn a wnaethom gydag ardaloedd menter yw cynnig lleoedd deniadol i fuddsoddwyr, yn ogystal â chymhellion deniadol i fusnesau sy'n bodoli eisoes barhau i weithredu'n llwyddiannus.