Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:49, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael y wybodaeth hon gennych, rydych o'r diwedd wedi darparu dadansoddiad o niferoedd y swyddi a grëwyd, a ddiogelwyd ac a gynhelir gan wyth ardal fenter Cymru, a diolch ichi am y ffigurau hynny. Mae'r ardaloedd menter wedi dangos mai dim ond—mae'r ffigurau gennyf yma—2,998 o swyddi newydd a grëwyd ers i'r ardaloedd gael eu sefydlu. Mae hynny er gwaethaf y £221 miliwn o arian cyhoeddus a ddyrannwyd i'r ardaloedd dros y pum mlynedd diwethaf. Golyga hyn fod cost gyfartalog creu un swydd newydd yn yr ardaloedd menter ychydig dros £73,000. Mae hynny'n gyfwerth â busnes yn cyflogi gweithiwr amser llawn am ychydig o dan dair blynedd a hanner. A ydych yn credu bod gwario dros £73,000 i greu un swydd yn sicrhau gwerth da i drethdalwyr Cymru?