Prosiectau Trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:07, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, dangosodd tystiolaeth a roddwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru fod cysylltedd â phorthladdoedd Cymru yn hanfodol i'w llwyddiant. Nawr, yn wir, dywed casgliad 12 yn yr adroddiad hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru wneud

'ymrwymiadau clir ar ddatblygu seilwaith y dyfodol y mae'n gyfrifol amdano, gan gynnwys priffyrdd.'

Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â deuoli'r A40 yn fy etholaeth, a fyddai nid yn unig yn cael effaith fuddiol iawn ar y ddau borthladd yn fy etholaeth, ond hefyd ar fusnesau a chymunedau lleol yn wir ledled Sir Benfro?