Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Hoffwn gyhoeddi datganiad ynghylch yr A40 a dweud y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn chwarae rôl hollbwysig yn asesu'r mathau gorau o seilwaith cysylltiedig sy'n cysylltu porthladdoedd a chyfleusterau eraill ledled Cymru. Bydd yr hysbysebion ar gyfer rôl cadeirydd y comisiwn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, a chredaf, yn enwedig mewn amgylchedd ôl-Brexit, y bydd rôl ein porthladdoedd yn cynhyrchu twf a ffyniant yn dod hyd yn oed yn bwysicach. Felly, mae angen inni sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu tuag at sicrhau eu bod yn fwy cysylltiedig a'u bod yn cysylltu'n well â chanolfannau trefol.