Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch, Lywydd. Fel y gwyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, tynnodd un o'r pedwar cwmni a wnaeth gais am fasnachfraint Cymru a'r gororau allan o'r broses yn sydyn ac yn annisgwyl ar 30 Hydref. Gofynnais i chi mewn cwestiwn ysgrifenedig beth oedd y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a dywedasoch mewn datganiad ysgrifenedig ar 9 Tachwedd eu bod wedi gwneud hynny oherwydd eu dadansoddiad masnachol eu hunain o'r contract. Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Trenau Arriva Cymru, datganiad a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru rwy'n credu, credaf eu bod hefyd yn cyfeirio at broffil risg nad oedd yn ddeniadol iddynt. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa risgiau a ganfuwyd gan Trenau Arriva Cymru a olygai fod eu cyfreithwyr wedi eu cynghori i beidio â bwrw ymlaen â'r broses o wneud ceisiadau?