Prosiectau Trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:10, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod y gwaith dichonoldeb yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Credaf y bydd yn cael ei gwblhau yn y flwyddyn newydd. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n gyfrifol o hyd, yn anffodus, am ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb, ar ôl iddi gael ei chwblhau, yn cael ei defnyddio i lywio proses gynllunio Network Rail, a Llywodraeth y DU yn wir, ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd, ac rwy'n falch fy mod wedi gallu cefnogi'r astudiaeth ddichonoldeb hon. Tynna'r Aelod sylw at nifer o fanteision a fyddai'n deillio o uwchraddio'r seilwaith rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.