Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Wrth iddo fe baratoi—. Mae un o'r cynlluniau mwyaf cyffroes rydw i wedi ei weld ar gyfer gweddnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth yw ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Rydw i'n credu bod hwn yn fuddsoddiad sydd yn newid agweddau pobl yn sylweddol iawn yn y gorllewin, sydd yn cadw cymunedau at ei gilydd a denu buddsoddiad. Rydym ni i gyd yn gwybod, ac mae e'n gwybod yn arbennig: lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ar rheilffyrdd yn Nghymru, mae llwyddiant a ffyniant wedi dilyn yn sgil hynny.
A fedrwch chi ein diweddaru ni ar y gwaith mae'r Llywodraeth yn ei wneud gyda'r astudiaeth dichonoldeb ar y rheilffordd yma? A fedrwch chi hefyd ddweud a ydych chi wedi dechrau trafod gyda Network Rail—yn y ffordd mwyaf amlinellol, rydw i'n gwybod, ond dechrau trafod gyda nhw—y posibiliad o'r cynllun yma yn mynd i mewn i'r fframwaith nesaf o fuddsoddiad, gan fy mod i o'r farn, nes bod popeth wedi cael ei ddatganoli, wrth gwrs, bod angen cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn y cynllun hwn?