Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ond mae prosiect ofn yn dal i fod yn fyw ac yn iach mewn sawl rhan o'r wlad a llawer o ddiwydiannau. Profwyd bod yr holl ofnau a wyntyllwyd hyd yn hyn yn hollol ffug. Mae 18 mis wedi mynd heibio bellach ers refferendwm Brexit ac mae ymyl y clogwyn roeddem i fod i ddisgyn oddi arno yn dal i fod yno ac nid ydym wedi disgyn drosto. Mae rhai problemau penodol yn wynebu amaethyddiaeth os na wnawn fargen â'r UE ar fasnach rydd, ond mae hyd yn oed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud yn yr ychydig wythnosau diwethaf,
Er bod Brexit wedi arwain at un o'r heriau mwyaf a wynebodd ein diwydiant ers cenedlaethau, ni all fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid i ni achub ar y cyfle a gyflwynwyd i ni i ddatblygu a thyfu ein diwydiant amaethyddol o'r radd flaenaf yng Nghymru. Mae'r Undeb yn credu'n gryf y gallwn sicrhau llwyddiant Brexit os yw ein ffocws cyfunol yn canolbwyntio ar gynorthwyo ein diwydiant i ateb yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy'n tyfu â bwyd diogel, safonol, fforddiadwy, ochr yn ochr â chynnal a gwella'r amgylchedd sydd mor annwyl i ni a chyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd.
Felly, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn croesawu'r cyfle y mae Brexit yn ei gynnig, a gwahoddaf Lywodraeth Cymru i ddilyn eu hesiampl. Digwyddodd y refferendwm, rydym yn gadael yr UE, rhaid inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith. Nid yw proffwydo gwae, ar y cam hwn, o fudd i neb; ni fydd ond yn cryfhau'r UE yn y negodiadau gyda Llywodraeth y DU, ac ni fuasai neb yn ei iawn bwyll yn y DU eisiau hynny.
Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi cael tro pedol arall ym mhrosiect ofn, oherwydd mae Siemens, diwydiant gweithgynhyrchu mwyaf Ewrop, sy'n cyflogi 15,000 o bobl yn y DU, wedi newid ei safbwynt ar Brexit. Dywedodd prif weithredwr Siemens, Joe Kaeser, ddwy flynedd yn ôl,
Byddai Brexit yn amharu ar yr economi yn y tymor byr ac rydym yn credu y gallai'r ansicrwydd ynghylch dyfodol perthynas y DU â'r UE gael effeithiau hirdymor mwy sylweddol a negyddol a allai wneud y DU yn lle llai deniadol i wneud busnes a gall fod yn ffactor wrth i Siemens ystyried buddsoddi yma yn y dyfodol.
Wel, ychydig ddyddiau'n ôl yn unig, cyhoeddodd Siemens eu bod yn cael gwared ar 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 yn rhagor ar draws Ewrop ac yn cael gwared ar 2,000 o swyddi yn yr Unol Daleithiau, ond ar yr un pryd cyhoeddasant fuddsoddiad o €39 miliwn ym Mhrydain i ehangu ei ffatri fwyaf yn y DU, yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.
Felly, nid yw popeth yn ddiobaith. Ymhell o fod. Roedd Michael Bloomberg, a oedd hefyd yn cefnogi aros i'r carn er mai Americanwr ydyw, yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i agor pencadlys Ewropeaidd newydd Bloomberg yn y Ddinas, pencadlys sy'n 3.2 erw o faint—mae'n ddatblygiad gwirioneddol enfawr.
Rydym yn agor pencadlys Ewropeaidd newydd sbon yn Llundain—dau adeilad mawr, drud. A fuaswn wedi gwneud hynny pe gwyddwn eu bod yn mynd i adael? Rwyf wedi meddwl efallai y gallwn fod wedi gwneud hynny… ond… rydym yn mynd i fod yn hapus iawn.
Mae'n dweud,
Beth bynnag fydd perthynas Llundain a'r DU â'r UE, mae iaith Llundain, ei chylchfa amser, ei thalent, ei seilwaith a'i diwylliant oll yn ei rhoi mewn sefyllfa i dyfu fel prifddinas fyd-eang ar gyfer blynyddoedd i ddod. Rydym yn obeithiol iawn am ddyfodol Llundain ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono.
Felly, er nad yw Cymru'n chwarae rhan fawr mewn gwasanaethau ariannol, bydd effaith y diwydiant gwasanaethau ariannol yn Llundain yn treiddio allan i weddill y wlad.
Ac yn amlwg, ymhlith y rhai a oedd o blaid Brexit, fel Syr James Dyson, buasech yn disgwyl iddynt fod yn optimistaidd am y dyfodol. Mae ganddo fusnes gweithgynhyrchu anferth sy'n masnachu ledled y byd. Mae'n gwneud buddsoddiadau enfawr heb fod mor bell â hynny o Gaerdydd—60 milltir i ffwrdd, ar y ffin rhwng swydd Gaerloyw a Wiltshire—mae'n buddsoddi hyd at £3 biliwn mewn parc technoleg newydd i ddatblygu cerbydau trydan, yn y bôn, a thechnoleg y mae Prydain yn arwain y byd ynddi. Trueni na symudodd ychydig pellach i'r gorllewin—fel rwyf fi wedi'i wneud, gan arwain y ffordd—i Gymru, a gosod y cyfleuster gweithgynhyrchu ac ymchwil hwnnw'n nes at Gaerdydd. Mae'n dweud,
Mae yna ansicrwydd bob amser mewn busnes, ynglŷn â chyfraddau cyfnewid, cyflwr marchnadoedd, trychinebau naturiol... Credaf fod ansicrwydd yn gyfle, a'r cyfle yma mewn gwirionedd yw bod gweddill y byd yn tyfu ar raddfa fwy o lawer nag Ewrop, felly ceir cyfle i allforio i weddill y byd ac i fanteisio ar hynny.