Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Felly, credaf fod pob rheswm dros feddwl fod economi Cymru yn mynd i elwa o Brexit yn y tymor canolig a hwy—a hyd yn oed yn y tymor byr. Rydym wedi cael un o'r datganiadau mwyaf hurt a welais gan brosiect ofn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phrif weithredwr Aston Martin yn ddiweddar, a oedd yn rhagweld y byddai cynhyrchu ceir yn dod i ben yn llwyr yn Aston Martin os na chawn fargen gyda'r UE. Roedd hynny'n seiliedig ar ragfynegiad na fyddai cymeradwyaeth math i geir a wnaed ym Mhrydain yn yr UE ac i'r gwrthwyneb. Wel, allforiodd Aston Martin 600 o geir i'r UE y llynedd, ac os na allent werthu eu ceir i mewn i'r Almaen am bris o £160,000 yr un, ni fuasai'r Almaenwyr yn gallu gwerthu eu 820,000 o geir y flwyddyn i Brydain, sef 14 y cant o'u holl gynhyrchiant ceir teithwyr. Daw 18 y cant o allforion ceir teithwyr yr Almaen i Brydain. Rywsut neu'i gilydd, nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd. Ac felly, mae angen inni edrych ar y realiti yma: buasai effaith y math o ragfynegiadau a gawsom gan Aston Martin mor fawr a thrychinebus—hyd yn oed i economi bwerus o faint yr Almaen—fel y buasai'n amhosibl y byddai hyn yn cael ei ganiatáu i ddigwydd, yn arbennig yn awr fod gan y Canghellor Merkel broblemau mwy enbyd gartref yn ceisio ffurfio Llywodraeth: rhywbeth nad yw wedi digwydd yn yr Almaen ers blynyddoedd y Weriniaeth Weimar. Felly, mae pethau'n newid yn fawr. Mae yna ansicrwydd yn yr Almaen yn ogystal ag ym Mhrydain, a dylem ystyried hynny'n syml fel ffaith bywyd.
Nawr, yn amlwg, mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Gymru, ac rwyf am dreulio ychydig funudau yn sôn am hynny oherwydd ceir sectorau penodol o amaethyddiaeth y bydd Brexit yn her iddynt, oherwydd hyd yn oed os llwyddwn i wneud bargen fasnach gynhwysfawr gyda'r UE, efallai y bydd rhai crychau mewn perthynas â chynhyrchion amaethyddol oherwydd natur ddiffyndollol y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hyn yn rhywbeth na allwn gilio rhagddo, ac nid wyf erioed wedi gwadu hynny, ac yn enwedig mewn perthynas ag allforion cig oen, mae hyn yn mynd i fod yn her fawr i ni, ond rhaid inni weld hyn mewn persbectif, wyddoch chi. Mae'r farchnad ar gyfer y cynhyrchion hyn yn gymharol fach o'i chymharu â'r farchnad yn ei chyfanrwydd—. Wyddoch chi, rydym yn siarad am allforion gwerth £120 miliwn y flwyddyn o gig oen o Gymru: arian mân yw £120 miliwn yng nghyd-destun economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Os oes problemau dros dro a phroblemau trosiannol mewn perthynas ag allforio cig oen, yna bydd gennym yr adnoddau i ymdrin â hwy oherwydd £8 biliwn y flwyddyn net ein cyfraniad i'r UE na fyddwn yn ei dalu mwyach, a hefyd, wrth gwrs, mae cyfle enfawr gydag amnewid mewnforion: 66 y cant yn hunangynhaliol yn unig rydym ni o ran cynhyrchu cig oen. Felly, daw llawer o'r un rhan o dair o'r farchnad gig oen ar hyn o bryd o Seland Newydd yn wir, ond daw llawer ohono o fannau eraill hefyd. Mewn perthynas â chig eidion, dwy ran o dair yn hunangynhaliol rydym ni unwaith eto. Mewnforion porc, 40 y cant yn hunangynhaliol; a dofednod, 73 y cant yn hunangynhaliol. Felly, mae gennym farchnad gartref fawr y gallwn barhau i'w datblygu i gymryd beth bynnag na allwn ei allforio i'r UE.
Nid yw'n fater o'r cwbl neu ddim: mae yna gyfleoedd i ni yn ogystal â phroblemau. Ac i amaethyddiaeth Ewropeaidd, wrth gwrs, mae'n mynd i greu anawsterau enfawr yn ogystal, oherwydd ein bod ni'n—. Ac yn enwedig mewn cynhyrchion penodol, hynny yw, nid wyf yn meddwl bod ffermwyr Denmarc yn mynd i fod yn rhy awyddus i ddarganfod nad ydynt yn mynd i allu gwerthu porc a chig moch i ni mwyach, er enghraifft. A dyn a ŵyr pa fath o fargen y gallwn ei gwneud gyda Gweriniaeth Iwerddon o dan agwedd gyndyn bresennol Monsieur Barnier, ond mae o bwys enfawr i economi Iwerddon fod gennym ryw fath o fargen sy'n rhyddhau masnach rhyngom o ran cynhyrchion amaethyddol, gan fod mwyafrif llethol y mewnforion i'r wlad hon o gig eidion a chynnyrch llaeth yn dod o Weriniaeth Iwerddon, ac mae amaethyddiaeth yn gyfran lawer iawn mwy o werth economi Iwerddon nag ydyw o economi Prydain, a Chymru hyd yn oed.
Felly, credaf fod digon o le inni fod yn obeithiol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, chwarae ei rhan yn hyn hefyd, a dylai fod eisiau chwarae rhan gadarnhaol yn datblygu cysylltiadau masnach yn y dyfodol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn aml yn mynd ar deithiau masnach ledled y byd, a bydd yn gwybod bod gweddill y byd, sef 85 y cant neu fwy o'r economi fyd-eang y tu allan i'r UE, yn gyfle enfawr i Gymru. Ond mae angen inni gael y seilwaith deddfwriaethol a'r seilwaith treth roeddem yn ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, sy'n mynd i hybu'r cyfleoedd hynny i'r eithaf.
Os defnyddiwn y rhyddid newydd a gawn drwy ailwladoli pwerau o Frwsel i Gaerdydd, yn ogystal ag o Frwsel i San Steffan—yn amlwg, bydd gennym reolaeth ar bolisi amaethyddol yma yng Nghaerdydd a'r polisi amgylcheddol yn ogystal—gallwn ailystyried llawer o'r ddeddfwriaeth a orfodwyd arnom yn y 40 mlynedd diwethaf, rhywbeth na chafodd ei drafod mewn unrhyw sefydliad seneddol. Roeddwn yn aelod o Gyngor y Gweinidogion yn yr UE a hefyd yn Weinidog yn Llywodraeth y DU yn San Steffan, ac roeddwn yn Aelod Seneddol am flynyddoedd lawer, yn derbyn offerynnau statudol a orfodai reoliadau arnom, a chaem ddadlau yn eu cylch, ond ni chaem eu diwygio ac yn sicr ni chaem bleidleisio yn eu herbyn. Felly, ni chafwyd unrhyw graffu deddfwriaethol ffurfiol ar lawer o'r ddeddfwriaeth hon erioed mewn gwirionedd.
Rhaid bod lle, yn enwedig lle mae deddfwriaeth wedi bod ar y llyfr statud am gyfnod mor hir heb ei ddiwygio, i ni addasu'r manylion mewn ffordd a fydd, heb beryglu lles y cyhoedd a diogelu'r amgylchedd ac ati, yn ein galluogi i wneud bywyd yn haws i fusnesau bach yn arbennig, sy'n bwysig iawn yng Nghymru, yn enwedig mewn amaethyddiaeth, lle mae'r rhan fwyaf o hunangyflogaeth yr ardaloedd gwledig yng Nghymru. Rhaid iddo roi ein cyfle i ni, rwy'n credu, i wneud bywyd yn haws, yn rhatach, ac felly i wneud y busnesau hyn yn fwy effeithlon a gallu ymdopi'n well â'r heriau sydd i ddod.
Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru: gadewch inni groesawu'r dyfodol; gadewch inni wynebu'r her, ond ei wneud mewn ffordd hyderus. Fe wnaethom greu ymerodraeth enfawr ledled y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ni oedd gweithdy'r byd. Mae Prydain wedi bod yn ffynhonnell arloesedd ac mae'n dal i fod. Os edrychwch ar nifer y gwobrau Nobel a enillwyd gennym, ceir mwy o enillwyr gwobr Nobel yn ystafell gyffredin Coleg y Drindod, Caergrawnt nag yn Ffrainc i gyd. Felly, rydym ni, fel cenedl, yn ddyfeisgar, yn arloesol ac yn fentrus, ac felly rwy'n gwahodd Llywodraeth Cymru i chwarae ei rhan i sicrhau bod gan Gymru ddyfodol llewyrchus.