Rôl Hawliau Dynol yn Neddfwriaeth Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:26, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, a gaf fi eich llongyfarch, yn amlwg, ar eich penodiad yn Gwnsler Cyffredinol, a dymuno'n dda i chi gyda'ch gwaith yn y dyfodol?

Gwyddom fod gan Gymru hanes balch o ymgorffori hawliau dynol yn ein deddfwriaeth, ein polisïau a'n gweithredoedd, ond rydym yn wynebu cryn ansicrwydd wrth i'r DU negodi i adael yr Undeb Ewropeaidd. A wnewch chi ystyried pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod hawliau dynol yn parhau i fod yn ganolog yng nghyfraith Cymru?