Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ar Sul y Cofio, bythefnos yn ôl, daeth pobl o bob cymuned at ei gilydd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ym mhob rhyfel, ac yn benodol, y rhai a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf. Yn ystod cyfnod y cofio, wrth gwrs, cawn gyfle i fyfyrio ar aberth pawb, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rydym yn diolch iddynt am yr hyn a wnânt ar ein rhan.
Yn gynharach eleni, nodwyd canmlwyddiant brwydr Passchendaele, un o ddigwyddiadau mwyaf gwaedlyd y rhyfel byd cyntaf. Bu farw hanner miliwn o ddynion o'r ddwy ochr tra'n brwydro dros 5 milltir o dir yn unig. Roedd yn drasiedi ddisynnwyr na ellir mo'i dirnad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd rhagor o ganmlwyddiannau. Byddwn yn cofio erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r miliynau o bobl a gollodd eu bywydau. Byddwn hefyd yn cofio'r dynion a ddychwelodd o ryfel, wedi dioddef trawma, ac wedi'u dryllio, i ganfod cymdeithas heb ddigon o waith neu dai ac nad oedd eto'n deall yr effeithiau y byddai eu profiad yn eu cael arnynt.
Heddiw, gallwn wneud yn well i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ar ein rhan ac i gefnogi eu teuluoedd. Mae Plaid Cymru yn croesawu'n fawr iawn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, ac rwy'n talu teyrnged i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol am ei arweiniad a'r gwaith a wnaed. Mae'n galonogol gweld bod cynnydd da wedi'i wneud, ac mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer o argymhellion pwysig er mwyn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael ymhellach.
Mae'r llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr yn cyflawni rôl bwysig drwy ddarparu cymorth ychwanegol i gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Gall dod o hyd i dŷ, ar ôl blynyddoedd lawer efallai yn y lluoedd arfog ac mewn ardal anghyfarwydd, fod yn frawychus ac yn anodd, ond mae'n allweddol i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog yn cael sefydlogrwydd. Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru i'r ddadl heddiw yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r llwybr hwnnw. Gan ei fod bellach wedi'i gyhoeddi, mae'n bwysig ei fod yn creu rôl reolaidd a gweithredol yn y ddarpariaeth a gynigir i gyn-filwyr. Hefyd, mae'n rhy hawdd weithiau i Lywodraeth, i ddogfennau cyfarwyddyd y mae'n eu cyhoeddi aros mewn drôr a pheidio â bod yn nodwedd gyson sy'n llywio ymarfer staff ar y rheng flaen o ddydd i ddydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y broses o gyflwyno'r llwybr a'r gwaith y maent yn ei wneud ar fonitro ei effeithiolrwydd.
Mae data da am y galw am gymorth ychwanegol a llwyddiant yr hyn sydd eisoes ar gael yn hollbwysig. Mae'r ffaith fod yr arolwg cenedlaethol o nifer y bobl sy'n cysgu allan yn cynnwys cwestiwn am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn rhywbeth sydd i'w groesawu. Mae ail welliant Plaid Cymru felly yn galw heddiw am gyhoeddi'r data hwnnw, fel y gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth a sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill, i lywio'r gwaith y maent yn ei wneud. Os gallwn nodi'r cysylltiad rhwng digartrefedd a gwasanaeth yn y lluoedd arfog, gallwn ymdrin yn well ag achosion y problemau y mae'n eu creu.
Fel cenedl, rydym yn gwneud addewid ar y cyd i'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog y byddant hwy a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Yr adeg hon o'r flwyddyn, wrth inni gofio'r aberth y maent yn ei gwneud, mae gennym ddyletswydd hefyd i ystyried a ydym yn cynnal yr addewid hwnnw. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn llawn ac yn ymdrechu'n gyson i wella'r cymorth y mae'n ei roi iddynt.